Hanes y Cwmni
Amdanon NI..
Sefydlwyd y busnes fel D. I. Evans & Sons yn 1946 gan Mr D. I. Evans, sef tad Mr Elfed Evans, gan gynnig gwasaneth contractio amaethyddol a hurio peiriannau.
Yn 1983 ymddeolodd Mr D. I. Evans a chafwyd dilyniant o’r busnes teuluol gan Mr Elfed Evans a’i wraig Mrs Janet Evans. Yna yn 2003, daethpwyd i benderfyniad i newid partneriaeth y busnes i fod yn gwmni cyfyngedig o dan enw D. I. Evans Cyf.
Ar hyn o bryd mae cenhedlaeth newydd o'r teulu wedi cymeryd yr awennau o redeg y busnes.
Gwasanaeth Galw mewn Argyfwng
casglu ac Ailgylchu
Dim Un Jobyn yn rhy fAch
Dros y blynyddoedd mae’r busnes wedi ehangu a newid yn ôl y galw a’r gofynion ar y pryd. Rhan fach iawn o’r busnes yw’r contractio amethyddol bellach, ac wedi ystyriaeth fanwl fe arall-gyfeiriwyd i ganolbwyntio ar waredu gwastraff. Dyma’r elfen o’r busnes sy’n datblygu ar hyn o bryd a rhoi’r pwyslais cynyddol ar ailgylchu. Cynyddwyd y staff yn raddol dros y blynyddoedd ac mae’n debygol bydd cynydd eto yn y dyfodol agos.
Rhan o ddatblygiad y busnes oedd cael Safle Trosglwyddo Gwastraff yn y pencadlys ym Meulah, gyda chaniatad cynllunio a thrwydded Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r safle yn rhoi pwyslais mawr i ailgylchu gymaint a phosibl o’r gwastraff. Gyda’r galw cynyddol am fwy a mwy o ailgylchu gwastraff mae cyfarwyddwyr D. I. Evans Cyf. yn ffyddiog mai dyma’r ffordd ymlaen i’r cwmni.
Nôd rheowyr y busnes yw cynnig gwasaneth proffesiynol ac effeithiol, gyda naws deuluol Cymreig. Rhoddir sylw mawr i Iechyd a Diogelwch gweithwyr, cwsmeriaid a’r cyhoedd gan fod hyn yn bwysig i lwyddiant y busnes.
Y prif wasanaethau a gynigir ar hyn o bryd yw:
- Ailgylchu Gwastraff
- Hurio Sgips
- Gwaredu Gwastraff Hylifol
- Chwistrellu Pwysedd Uchel
- Gosod Tanciau Carthion a Thyllau Archwilio
- Atgyweirio ac Adnewyddu Draeniau
- Cysylltu Draeniau a Phibellau Carthion ar Bryffyrdd
- Hurio Peiriannau Amrywiol
- Paratoi Safleoedd i Waith Adeiladu Masnachol, Preifat ac Amaethyddol
- Dymchwel Adeiladau
- Gwaith Tirlunio