Cartref - Cymraeg

cwmni Rheoli Gwastraff o geredigion

Cwmni teuluol yw D. I. Evans Cyf. sydd wrth law i ddarparu pob math o wasanaethau rheoli gwastraff, draenio a hurio peirianau i'n cwsmeriaid. Gyda dros 75 mlynedd o brofiad mewn darparu gwasanaeth dibynadwy a dwyieithog, does dim dewis gwell i'w gael!

75 years anniversary badge

Croeso / Welcome

Croeso i wefan D. I. Evans Cyf. Gobeithio gall y safle hwn roi rhyw fath o amcan i chi o’r math o waith a gynigir. Fel y gwelwch wrth bori trwy’r wefan, mae’r cwmni teuluol hwn wedi newid tipyn ers i D. I. Evans ei ddechrau dros 75 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn ailgylchu yw ein prif nôd, ond hefyd cynigiwn wasanaethau amrywiol eraill.

Y prif wasanaethau a gynigir ar hyn o bryd yw:



Y prif wasanaethau a gynigir ar hyn o bryd yw:

  • Ailgylchu Gwastraff
  • Hurio Sgipiau o bob maint
  • Gwaredu Gwastraff Hylifol
  • Gwagio Tanciau Septig
  • Chwistrellu Pwysedd Uchel
  • Arolwg Draeniau gyda Chamera Cylch Cyfun
  • Gosod Tanciau Carthion a Thyllau Archwilio
  •  Atgyweirio ac Adnewyddu Draeniau
  • Cysylltu Dreiniau a Phibellau Carthion ar Briffyrdd
  • Hurio Peiriannau Amrywiol
  • Paratoi Safleoedd i Waith Adeiladu Masnachol, Preifat ac Amaethyddol
  • Dymchwel Adeiladau
  • Gwasanaethau gyda thrwydded CHAS
  • Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Drwyddedig

CYSYLLTWCH AM FWY O WYBODAETH

01239 810878

Polisi Iaith Gymraeg / Welsh Language Policy
Location map

Cysylltwch / Contact Us

Share by: