

HANES Y CWMNI
Mae D. I. Evans Cyf wedi bod yn ganolfaen rheoli gwastraff ac ailgylchu yn ardal Castell Newydd Emlyn a thu hwnt ers bron i 80 mlynedd. O'r dechreuad gostyngedig mewn contractio amaethyddol i ddod yn enw dibynadwy mewn gwaredu gwastraff, mae ein busnes teuluol yn parhau i ateb gpfynion cwsmeiaid a rhoi gwasanaeth o safon uchel.
DROS 80 MLYNEDD O BROFIAD
Ffoniwch am fwy o wybodaeth.
GWASANAETH ARGYFWNG DRAENIAU
CASGLU AC AILGYLCHU
SAFLE GWASTRAFF TRWYIDDIEDIG
AMDANON NI..
Sefydlwyd y busnes fel D. I. Evans Cyf yn 1946 gan Mr D. I. Evans, sef tad Mr Elfed Evans, gan gynnig gwasaneth contractio amaethyddol a hurio peiriannau.
Yn 1983 ymddeolodd Mr D. I. Evans a chafwyd dilyniant o’r busnes teuluol gan Mr Elfed Evans a’i wraig Mrs Janet Evans. Yna yn 2003, daethpwyd i benderfyniad i newid partneriaeth y busnes i fod yn gwmni cyfyngedig o dan enw D. I. Evans Cyf.
Ar hyn o bryd mae cenhedlaeth newydd o'r teulu wedi cymeryd yr awennau o redeg y busnes.



Ein taith drwy'r blynyddoedd
Dros y blynyddoedd mae’r busnes wedi ehangu a newid yn ôl y galw a’r gofynion ar y pryd. Rhan fach iawn o’r busnes yw’r contractio amethyddol bellach, ac wedi ystyriaeth fanwl fe arall-gyfeiriwyd i ganolbwyntio ar waredu gwastraff. Dyma’r elfen o’r busnes sy’n datblygu ar hyn o bryd a rhoi’r pwyslais cynyddol ar ailgylchu. Cynyddwyd y staff yn raddol dros y blynyddoedd ac mae’n debygol bydd cynydd eto yn y dyfodol agos.
Rhan o ddatblygiad y busnes oedd cael Safle Trosglwyddo Gwastraff yn y pencadlys ym Meulah, gyda chaniatad cynllunio a thrwydded Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r safle yn rhoi pwyslais mawr i ailgylchu gymaint a phosibl o’r gwastraff. Gyda’r galw cynyddol am fwy a mwy o ailgylchu gwastraff mae cyfarwyddwyr D. I. Evans Cyf. yn ffyddiog mai dyma’r ffordd ymlaen i’r cwmni.
Nôd rheowyr y busnes yw cynnig gwasaneth proffesiynol ac effeithiol, gyda naws deuluol Cymreig. Rhoddir sylw mawr i Iechyd a Diogelwch gweithwyr, cwsmeriaid a’r cyhoedd gan fod hyn yn bwysig i lwyddiant y busnes.

Y Prif Wasanaethau A Gynigir Ar Hyn O Bryd Yw:
-
Ailgylchu gwastraff
-
Gwaredu Gwastraff Hylifol
-
Gosod Tanciau Carthion a Thyllau Archwilio
-
Cysylltu Draeniau a Phibellau Carthion ar Bryffyrdd
-
Gosod tanciau septig a thyllau archwilio
-
Arolygon jetio pwysedd uchel ac arolygon camera draen CCTV
-
Hurio Sgips
-
Chwistrellu Pwysedd Uchel
-
Atgyweirio ac Adnewyddu Draeniau
-
Adeiladu safleoedd ar gyfer safleoedd masnachol, preifat a diwydiannol
-
Gwaith dymchwel
-
Tirlunio


Rydym wedi defnyddio D. I. Evans ar nifer o achlysuron ac ni fyddem yn mynd i unman arall. Pris cystadleuol, danfoniad a chasglu prydlon. Mae eu gyrwyr a'u staff swyddfa bob amser yn gyfeillgar ac yn hapus i helpu. Yn bendant y gorau o gwmpas.
Cysylltwch â ni heddiw
Ffoniwch ni nawr i drafod eich anghenion gwaredu gwastraff a darganfod sut y gall D. I. Evans Cyf eich cynorthwyo.


